Booking options
Free

Free
Delivered Online
2 hours 30 minutes
All levels
Young people, mental health and museums (Wales)
Monday 23 March, 10am – 12.30pm
What role can museums play in supporting the mental health and wellbeing of young people aged 16-25?
About this training
In a recent report, Public Health Wales stated one in five children and young people aged 8-24 in Wales were estimated to have a diagnosable mental health condition in 2023, compared to 1 in 10 in 2004. The prevalence of mental health conditions rises with age and currently equates to an estimated 135,500 8-24 year olds.
In this session, we will explore how museums can support young people to maintain good mental health and a positive sense of wellbeing.
We will hear case studies from the Museum of Welsh Cricket and Amgueddfa Cymru about their work in this area. Dr Ian Smillie from the Aneurin Bevan University Health Board and Amy Davies from Public Health Wales will outline key information from recent research into young people and mental health. They will also highlight partnerships museums can develop to deliver wellbeing provision. GLAM Cares will also speak about the importance of staff wellbeing when undertaking this work.
The session will help you to:
understand the importance of this work,
think about staff wellbeing,
work in partnership with local organisations to deliver this provision,
gain inspiration from case studies to take your own work forward.
Take a look at the full schedule.
This training event will be delivered virtually on Zoom over one half-day session (two hours and 30 minutes with a short break). This session will be delivered in English with bilingual slides, with the option to provide a Welsh language interpreter.
Generously supported by the Welsh Government.
Who should attend?
This training is aimed at staff and volunteers who work in museums, art galleries and heritage sites and are interested in supporting young people’s mental health and wellbeing. This training webinar is for staff and volunteers from Welsh museums only.
Pobl ifanc, iechyd meddwl ac amgueddfeydd (Cymru)
Dydd Llun 23 Mawrth, 10am – 12.30pm
Pa rôl all amgueddfeydd ei chwarae i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc 16-25 oed?
Gair am yr hyfforddiant hwn
Mewn adroddiad diweddar, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn amcangyfrif bod un ymhob pump o blant a phobl ifanc 8-24 oed yng Nghymru wedi cael diagnosis o gyflwr iechyd meddwl yn 2023, o’i gymharu ag 1 ymhob 10 yn 2004. Mae cyflyrau iechyd meddwl yn dod yn fwy amlwg gydag oed a’r amcangyfrif yw bod y cyfrifiad ar hyn o bryd yn cyfateb â 135,500 o blant a phobl ifanc 8-24 oed.
Yn y sesiwn hon, byddwn yn archwilio sut y gall amgueddfeydd gefnogi pobl ifanc i gadw eu hiechyd meddwl yn dda a theimlo synnwyr cadarnhaol o les.
Byddwn yn clywed astudiaethau achos o Amgueddfa Criced Cymru ac Amgueddfa Cymru am eu gwaith yn y maes hwn. Bydd Dr Ian Smillie o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Amy Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru’n amlinellu gwybodaeth allweddol o ymchwil diweddar am bobl ifanc ac iechyd meddwl. Byddent hefyd yn tynnu sylw at bartneriaethau y gall amgueddfeydd eu datblygu i gyflwyno darpariaeth sy’n hybu lles. Bydd GLAM Cares hefyd yn siarad am bwysigrwydd lles staff wrth wneud y gwaith yma.
Bydd y sesiwn yma’n eich helpu chi i:
ddeall pwysigrwydd y gwaith yma,
feddwl am les y staff,
weithio mewn partneriaeth â sefydliadau lleol i gyflwyno’r ddarpariaeth hon,
gael ysbrydoliaeth o astudiaethau achos i gymryd eich gwaith ei hun yn ei flaen.
Bydd y digwyddiad hyfforddi hwn yn cael ei ddarparu ar-lein mewn un sesiwn hanner diwrnod (dwy awr a hanner gydag egwyl fer). Bydd y sesiwn yn cael ei darparu yn Saesneg gyda sleidiau dwyieithog, a bydd opsiwn i gael cyfieithydd Cymraeg.
Cefnogir hyn yn hael gan Lywodraeth Cymru.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r hyfforddiant hwn wedi ei anelu at staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio mewn amgueddfeydd, orielau celf a safleoedd treftadaeth ac sydd â diddordeb mewn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.
