Booking options
£5 - £25

£5 - £25
On-Demand workshop
1 hour 30 minutes
All levels
Hyfforddiant mewn hanfodion blaen tŷ: Croesawu teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol
Mewn ymchwil i ALVA gan Baker Richards yn 2025, canfuwyd bod 41% o deuluoedd oedd yn ymweld ag atyniadau, fel amgueddfeydd, yn cynnwys plentyn gydag anghenion addysgol arbennig. Roedd astudiaeth yn 2019 gan Ecclesiastical yn arolygu teuluoedd gydag anghenion ychwanegol i ofyn am eu profiadau o ymweld ag amgueddfeydd, cestyll a safleoedd treftadaeth. Dywedodd 42% o rieni oedd â phlant gydag anghenion ychwanegol bod staff neu ymwelwyr yn anghyfeillgar neu’n gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus.
Bydd y cwrs yma’n sicrhau bod eich amgueddfa’n osgoi dod yn rhan o’r ffigur hwn. Bydd yn cynnig syniadau i chi ryngweithio mewn ffordd hwyliog a hygyrch gyda theuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.
Mae’r cwrs wedi’i rannu’n bum sesiwn. Mae pob sesiwn yn cynnwys nifer o ffilmiau byr, sy’n cymryd tua deg munud i’w gwylio. Mae gweithgareddau gwaith cartref i’w gwneud hefyd i helpu i gefnogi eich dysgu. Bydd angen tua 1-2 awr arnoch chi i gwblhau’r cwrs. Does dim rhaid i chi ei gwblhau mewn un eisteddiad. Gallwch fynd i mewn i’r cwrs cynifer o weithiau ag y dymunwch.
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r meysydd nesaf:
Sesiwn un – dysgu pam mae ymwelwyr sy’n deuluoedd gydag anghenion ychwanegol yn rhan bwysig o’ch cynulleidfa.
Sesiwn dau – dod i ddeall y prif bryderon sydd gan deuluoedd ag anghenion ychwanegol am ymweld ag amgueddfeydd.
Sesiwn tri – datblygu dealltwriaeth o sut i gefnogi teuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol ar eich safle.
Sesiwn pedwar – dysgu sut i ymgysylltu’n hyderus â theuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.
Sesiwn pump (opsiynol) – meddwl am newidiadau y gallech eu gwneud yn eich amgueddfa i wella’r ddarpariaeth i deuluoedd sydd ag anghenion ychwanegol.
Pwy ddylai gymryd y cwrs?
Mae’r cwrs hwn wedi ei fwriadu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy’n wynebu’r cyhoedd, yn cynnwys rheolwyr mewn amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth sydd â diddordeb mewn gwneud eu sefydliadau’n fwy croesawgar i deuluoedd AAAA.
Mae Kids in Museums yn darparu’r cwrs hwn mewn partneriaeth â Sam Bowen. Mae Sam yn ymgynghorydd amgueddfeydd, orielau a threftadaeth sy’n arbenigo mewn cynhwysiant plant a phobl ifanc gydag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau (AAAA). Mae gwaith Sam wedi ei seilio ar 25 mlynedd o brofiad proffesiynol mewn amgueddfeydd ochr yn ochr â phrofiad byw o fod yn rhiant AAAA.
Cefnogir y cwrs gydag arian gan Arts Council England a Llywodraeth Cymru.
